Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales
Y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig | Climate Change, Environment and Rural Affairs Committee
Fframweithiau cyffredin y DU ar amaethyddiaeth a’r amgylchedd | UK common frameworks on agriculture and environment
UK 03
Ymateb gan : Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Evidence from : Welsh Local Government Association
CYFLWYNIAD
1. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) yn cynrychioli'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru, ac mae tri awdurdod y parciau cenedlaethol, y tri awdurdod tân ac achub a phedwar awdurdod yr heddlu’n aelodau cyswllt.
2. Mae’n ceisio cynrychioli awdurdodau lleol o fewn fframwaith polisi datblygol sy'n bodloni blaenoriaethau allweddol ein haelodau ac yn darparu ystod eang o wasanaethau sy'n ychwanegu gwerth at Lywodraeth Leol Cymru a’r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu.
3. Mae CLlLC yn croesawu’r cyfle hwn i fwydo gwybodaeth i ymchwiliad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig i ‘r mater o fframweithiau cyffredin ar amaeth a’r amgylchedd.
SYLWADAU CYFFREDINOL
4. Mae’n bwysig nodi ar y dechrau bod CLlLC o blaid aros o fewn yr UE yn ystod ymgyrch y refferendwm. Mae unrhyw drefniadau newydd yn annhebygol o ddarparu’r un buddiannau ag y mae’r DU yn eu mwynhau fel aelod llawn. Fodd bynnag, gan bod y penderfyniad i adael wedi ei wneud, fel y rhan fwyaf o sefydliadau gall CLlLC weld y manteision o gytuno ar fframweithiau cyffredin. Mae marchnad y DU o bwysigrwydd mawr i fusnesau yng Nghymru a byddai'n anfantais iddynt gyflwyno rhwystrau ‘mewnol’ i symudiad nwyddau a gwasanaethau. Yn yr un modd, byddai masnach ryngwladol ehangach yn dioddef pe byddai pob un o’r gweinyddiaethau datganoledig yn cyflwyno gwahanol ofynion.
5. Eto, mae llawer o ddeddfwriaeth amgylcheddol yn ymwneud â nodweddion lle byddai trafferthion ymarferol difrifol yn deillio o geisio gweithredu gwahanol reoliadau a systemau bob ochr i ffin a hynny oherwydd eu natur - e.e. ansawdd aer; rheoli llygredd; atal llifogydd.
6. Mae Llywodraeth Cymru (a’r Alban) wedi nodi’n eglur na ddylid gorfodi unrhyw fframwaith, ond y dylai pob llywodraeth eu trafod a chytuno arnynt, gan barchu'r setliadau datganoledig. Mae CLlLC yn cefnogi’r safbwynt hwnnw. Fodd bynnag, byddem yn mynd gam ymhellach. Bydd nifer o’r materion a drafodir o ran y fframweithiau â goblygiadau sylweddol ar gyfer awdurdodau lleol – gwasanaethau Safonau Masnach a Iechyd a Lles Anifeiliaid yn arbennig. Mewn sawl achos nhw yw’r cyrff sy'n gyfrifol am gynghori busnesau fferm ar faterion cydymffurfedd ac ar gyfer archwiliadau a / neu orfodi. Felly, mae’r un mor bwysig bod llywodraeth leol yn cael rhoi mewnbwn i ddatblygiad y fframweithiau.
7. Hyd yma, dim ond rhwng Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig fu’r trafodaethau. Mae angen ehangu’r ddeialog fel bod y rheiny mewn awdurdodau lleol sydd â chyfrifoldebau o dan y fframweithiau newydd yn gallu dylanwadau ar benderfyniadau allweddol ar y cam hwn yn y broses ynglŷn â sut byddant yn gweithredu. Byddai hynny’n unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015. Er nad yw Llywodraeth y DU yn ddarostyngedig i’r darn hwn o ddeddfwriaeth, y mae Llywodraeth Cymru. Felly mae’n ofynnol cynnwys rhanddeiliaid, er mwyn ceisio dulliau gweithredu integredig mewn ymgais i atal cymhlethdodau posib rhag dod i’r amlwg maes o law.
8. Mae’n galonogol bod is grŵp Deddfwriaeth a Rheoliadau’r Ford Gron a sefydlwyd gan Lesley Griffiths bellach wedi cychwyn trefnu sesiynau rhanddeiliaid ar fframweithiau. Mae CLlLC wedi cynnig cynorthwyo i glustnodi swyddogion arbenigol o fewn Awdurdodau Lleol a fydd yn gallu cynnig safbwynt ymarferydd, yn seiliedig ar brofiad uniongyrchol o weinyddu systemau presennol.
9. Awgrymwyd nad oes angen gweithredu pellach o ran fframweithiau'r DU ar gyfer un bloc o ddeddfau'r UE sy'n gorgyffwrdd â chymhwysedd wedi ei ddatganoli. Yn yr achosion hyn credir y gall Llywodraeth y DU a’r Gweinyddiaethau Datganoledig ddatblygu eu trefniadau eu hunain heb greu unrhyw gymhlethdodau mawr. Fodd bynnag, bydd yn dal yn bwysig fod Awdurdodau Lleol yn chwarae rhan yn natblygiad y trefniadau hyn.
10.
Ar gyfer bloc arall o 24 maes, mae’n bosib y
bydd angen deddfwriaeth er mwyn rhoi fframweithiau angenrheidiol yn
eu lle. Bydd angen i’r rhain felly gael eu trafod yn fanwl
rhwng llywodraethau. Mae Atodiad 1 yn rhestru’r 24 maes.
Mae colofn olaf y tabl yn egluro rôl a buddiannau llywodraeth
leol - y mae nifer ohonynt yn arwyddocaol iawn. Mae’n
hanfodol fod y rolau hyn yn cael eu cydnabod a bod llywodraeth leol
yn gallu bwydo mewn i’r broses o gynllunio ar gyfer y dyfodol
yn hytrach na derbyn fait accompli.
11. Yn olaf, ar eitem gyntaf y tabl yn Atodiad 1, mae cymorth amaethyddol yn fater arbennig o bwysig ar gyfer Awdurdodau Lleol – yn enwedig felly y rheiny sydd â phoblogaeth wledig sylweddol. Tra bo ymgynghoriad ar Gronfa Ffyniant a Rennir y DU ar y gweill ar gyfer yn hwyrach eleni, ein dealltwriaeth yw taw dyma fydd y brif ffynhonnell ar gyfer cymryd lle cyllid Cronfeydd Strwythurol yr UE (ERDF yn benodol) ac felly ni fydd yn cynnwys datblygu gwledig. Tra bo ymrwymiadau wedi eu gwneud gan Lywodraeth y DU o ran taliadau uniongyrchol i ffermwyr, nid oes unrhyw sicrwydd tebyg wedi ei roi hyd yma o ran cyllid y Rhaglen Datblygu Gwledig. Rhaid i’r sicrwydd hwn gael ei roi cyn gynted a phosib er mwyn gallu cynllunio tuag at y dyfodol.
SYLWADAU AR GWESTIYNAU PENODOL
Ym mha feysydd polisi, o fewn cylch gwaith y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, y mae angen fframweithiau cyffredin deddfwriaethol a fframweithiau heb fod yn ddeddfwriaethol? ac;
A yw’r asesiad dros dro a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn gosod dull gweithredu addas ac a yw wedi'i gwblhau? A oes gennych bryderon penodol am y categoreiddiad arfaethedig?
12. Mae nodi yr holl feysydd sy’n gorgyffwrdd â chymhwysedd wedi ei ddatganoli, a nodi lle gellid bod angen fframweithiau cyffredin, yn waith mawr a chymhleth y mae angen mewnbwn cyfreithiol iddo. Nid oes adnoddau gan CLlLC i ymchwilio i’r holl bosibiliadau amrywiol, ac mae’n rhaid derbyn y bydd Llywodraethau'r DU a Chymru yn gweithio drwy hyn rhyngddynt. Fodd bynnag, mae posibilrwydd y bydd angen datblygu fframweithiau mewn rhai achosion, er na chredwyd bod hynny’n angenrheidiol yn y man cyntaf. Yn yr un modd, bydd rhai enghreifftiau lle penderfynir ar ôl ymchwiliad pellach nad oes angen fframweithiau cyfreithiol, er y credwyd yn y man cyntaf bod angen.
13. Mae amser yn ffactor allweddol, ac yn y brys i ddatrys hyn, byddai’n syndod pe byddai popeth yn cael ei nodi’n gywir y tro cyntaf. Mae’n anochel y bydd adlewyrchu dros amser, o ystyried profiad. Bydd cynnwys rhanddeiliaid allweddol fel Awdurdodau Lleol yn y broses o’r camau cynharaf o gymorth i gyfyngu ar y nifer o gamgymeriadau - a cham gategoreiddio – a wneir.
Sut dylid datblygu a gweithredu'r fframweithiau deddfwriaethol a’r fframweithiau heb fod yn ddeddfwriaethol?
14. Fel mae’r sylwadau uchod yn eu awgrymu, bydd yn hanfodol bwysig datblygu a gweithredu fframweithiau mewn partneriaeth â’r holl randdeiliaid perthnasol. Ni ddylai hyn fod yn enghraifft o lywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd i gytuno ar ddogfen ymgynghori ac yna’n ceisio barn. Mae angen cynnwys y rhanddeiliaid hyn mewn gweithgorau i ddatblygu'r fframweithiau. O safbwynt llywodraeth leol gall CLlLC helpu i reoli’r broses hon, gan nodi unigolion fydd yn gallu gwneud cyfraniad ystyrlon.
15. Dylid hefyd ystyried y rheiny sy'n ddarostyngedig i fframweithiau newydd fel rhanddeiliaid - ni ddylid cyfyngu fel mai dim ond y rheiny sy’n gyfrifol am lunio fframweithiau a’u gweithredu / gorfodi sy’n rhan o’r broses. Eto, gall Awdurdodau Lleol fod o gymorth drwy dynnu sefydliadau a chyrff perthnasol y mae ganddynt gyswllt rheolaidd a gweithredol â nhw i fewn i’r broses.
16. Yn ddiau, bydd pryderon am oedi os bydd rhaid cynnwys gormod o randdeiliaid. Fodd bynnag, mae’n bwysig canolbwyntio ar wneud penderfyniadau da, yn hytrach na phenderfyniadau cyflym. Mae profiad yn dangos bod mwy o waith ac ymgysylltu ‘oddi wrth y cwsmer’ yn cynhyrchu canlyniadau mwy cynaliadwy ‘at y cwsmer' - gyda synnwyr uwch o berchnogaeth.
Pa mor benodol ddylai’r fframweithiau cyffredin fod a faint o ddisgresiwn ddylai pob gweinyddiaeth ei gael o fewn y fframweithiau?
17. Fel rheol gyffredinol, dylai’r fframweithiau gynnwys digon o amodau er mwyn rhoi pendantrwydd i'r rhai sy'n gorfod gweithredu oddi mewn iddynt. Y ffordd orau i gyflawni hyn yw drwy gynnwys prif chwaraewyr yn ystod y cam datblygu, fel y gellir 'profi' y syniadau cyn eu ffurfioli.
18. Rhaid i’r fframweithiau hefyd fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu gwahaniaethau rhwng cenhedloedd y DU. Mae datganoli wedi golygu gwahaniaeth mewn polisïau a deddfwriaeth. Dylai fframweithiau geisio gweithio gyda’r gwahaniaethau hyn a chaniatáu elfen o ddisgresiwn, yn hytrach na safoni. Mae hynny’n awgrymu y dylid cadw fframweithiau yn weddol agored, gyda elfen o ryddid, ac i beidio manylu’n ormodol.
ATODIAD 1 – ASESIAD O FEYSYDD CYFREITHIOL YR UE SY'N GORGYFFWRDD Â CHYMHWYSEDD WEDI EI DDATGANOLI YNG NGHYMRU – SAFBWYNT LLYWODRAETH LEOL
Y 24 maes polisi lle mae'n bosib y bydd angen trafodaeth mwy manwl er mwyn archwilio a oes angen trefniadau fframwaith cyffredin deddfwriaethol, yn rhannol neu’n llawn – buddiannau / rôl llywodraeth leol
Cyfrifoldeb Adran Llywodraeth y DU
|
Maes Cyfraith yr UE (Maes Polisi)
|
Gorgyffyrddiad Datganoledig
|
Gwybodaeth ychwanegol – beth mae cyfraith yr UE yn ei wneud
|
Buddiannau / rôl Llywodraeth Leol |
||
GI |
A |
C |
||||
DEFRA |
Cymorth amaethyddol |
x |
x |
x |
Polisïau a Rheoliadau o dan Bolisi Amaethyddol Cyffredin yr UE yn cynnwys Colofn 1 (incwm a chymorth marchnad); Colofn 2 (twf gwledig, amaeth-amgylchedd, grantiau neu wasanaethau cynhyrchiant amaethyddol a throi’n organig a grantiau cynnal); a materion trawsbynciol, gan gynnwys croes gydymffurfedd, cyllid a rheoliadau. |
· Mae cymorth Colofn 1 i ffermwyr yn ffynhonnell bwysig o incwm i’r economi lleol ac i les ehangach mewn Awdurdodau Lleol gwledig. · Mae Awdurdodau Lleol wedi bod â rôl bwysig o safbwynt Colofn 2 a’r Rhaglen Datblygu Gwledig e.e. maent yn gweithredu fel Cyrff Cyfreithiol ar gyfer Grwpiau Gweithredu Lleol LEADER yn y rhan fwyaf o achosion ac maent yn arwain ar nifer o brosiectau o fewn nifer o Gynlluniau’r Cynllun Datblygu Gwledig. |
DEFRA |
Amaethyddiaeth – rheoliadau gwrtaith
|
x |
x |
x |
Rheoliadau yn darparu safonau cyffredin ar gyfer cynhwysion cyfansoddol, labelu, pecynnu, samplu a dadansoddi gwrtaith. Mae’r DU hefyd yn rhan o nifer o drefniadau rhyngwladol (e.e. Protocol Gothenberg) a chytundebau'r UE (Cyfarwyddeb Uchafswm Cenedlaethol) sy’n ymwneud â rheoliadau gwrtaith. |
· Mae Awdurdodau Lleol a'r Arolygiaeth Meddyginiaethau Anifeiliaid yn gorfodi deddfwriaeth drwy archwilio cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd anifeiliaid a gwrtaith, gan gymryd samplau i’w dadansoddi a rhoi cyngor i fusnesau a defnyddwyr. |
DEFRA |
Amaethyddiaeth – tyfu a marchnata organebau wedi’u haddasu’n enetig (GMO)
|
x |
x |
x |
Safonau ar gyfer tyfu a marchnata organebau wedi'u haddasu'n enetig
|
· Mae awdurdodau lleol yn samplu a throsglwyddo data drwy System Arolygu Bwyd y DU (UKFSS). Maent hefyd yn gwneud gwaith gorfodi
|
DEFRA |
Amaethyddiaeth – ffermio organig
|
x |
x |
x |
Rheoliadau sy’n gosod safonau ar gyfer ardystio cynnyrch organig.
|
· Mae buddiant posib gan Awdurdodau Lleol drwy ffermydd Awdurdod Lleol – unedau amaethyddol y mae Awdurdod Lleol yn berchen arnynt ac a gaiff eu rhentu i ffermwyr (ym mis Mawrth 2014, roedd 1,022 fferm dyddyn oedd yn cynnwys ardal o dros 18,000 hectar)[1] · Mae Awdurdodau Lleol yn sicrhau bod disgrifiadau o hawliau ‘organig’ a hawliau eraill yn gywir a gonest. |
DEFRA |
Amaethyddiaeth – technoleg hwsmonaeth anifeiliaid |
x |
x |
x |
Deddfwriaeth yr UE yn darparu fframwaith gyffredin o reolau ar fagu a masnachu anifeiliaid pedigri a chynnyrch eginol yn yr UE a thrin cynnyrch wedi ei fewnforio o 3ydd gwledydd. Mae awdurdodau cymwys gan bob un o ranbarthau’r DU ar gyfer cydnabod cymdeithasau brîd o dan y ddeddfwriaeth hon.
|
|
DEFRA |
Iechyd ac Olrhain Anifeiliaid
|
x |
x |
x |
Safonau a rheolau’r UE sy’n ceisio cynnal iechyd anifeiliaid a chaniatáu eu symud, gan gynnwys polisïau’n ymwneud â: atal clefydau (rhag dod i mewn i’r DU), rheoli clefydau (endemig ac egsotig), gwyliadwriaeth (rhag clefydau egsotig), symudiadau da byw, pasbortau anifeiliaid anwes a meddyginiaethau milfeddygol.
|
· Mae gan Swyddogion Safonau Masnach ystod eang o gyfrifoldebau’n ymwneud â iechyd a lles anifeiliaid · Safonau Masnach yw un o’r asiantaethau arweiniol pan fydd clefydau yn torri allan |
DEFRA |
Lles anifeiliaid |
x |
x |
x |
Rheolau’r UE yn ymwneud ag agweddau o les anifeiliaid gan gynnwys materion ar y fferm, symudiadau da byw a lladd da byw.
|
· Mae gan Swyddogion Safonau Masnach ystod eang o gyfrifoldebau’n ymwneud â iechyd a lles anifeiliaid gan gynnwys cynghori, archwilio a gorfodi. |
Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a DEFRA
|
Rheoli Cemegion (gan gynnwys plaladdwyr)
|
x* |
x* |
x* |
Rheoliadau’r UE ar ddosbarthu, labelu a phecynnu sylweddau a chymysgeddau (CLP); defnyddio a gosod cynnyrch bioladd ar y farchnad (e.e gwenwyn llygod); allforio a mewnforio cemegion peryglus; cofrestru, gwerthuso, awdurdodi a chyfyngu ar gemegion (REACH); a chynhyrchion amddiffyn planhigion (e.e. plaladdwyr).
|
· Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac adrannau Safonau Masnach Awdurdodau Lleol sy’n gorfodi’r CLP |
Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Elfennau o ofal iechyd cyfatebol
|
x* |
x* |
x* |
Rheoliadau 1408/71 a 883/2004 yw’r prif ddarnau o ddeddfwriaeth gan yr UE sy’n darparu ar gyfer gofal iechyd cyfatebol.
|
|
DEFRA |
Safon amgylcheddol - cemegion
|
x* |
x* |
x* |
Rheoleiddio cynhyrchu, awdurdodi, gwerthu a defnyddio cynnyrch cemegol yn bennaf drwy reoliadau REACH ond gan gynnwys hefyd: Llygryddion Organig Parhaus (POPs), Deuffenylau Polyclorinedig (PCBs) a Minamata |
· Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yw’r corff cymwys ar gyfer rheoliad Cofrestru, Gwerthuso, ac Awdurdodi Cemegion (REACH), ond adrannau Safonau Masnach yr Awdurdodau Lleol sy’n gyfrifol am faterion diogelu’r defnyddiwr. |
DEFRA |
Safon amgylcheddol - nwyon tŷ gwydr wedi’u fflworeiddio a sylweddau sy’n teneuo’r osôn
|
x |
x |
x |
Mae rhwymedigaethau rhyngwladol ar y DU o dan Brotocol Montréal i ddwyn y defnydd o sylweddau sy’n teneuo’r osôn (ODS) i ben, lleihau’r defnydd o hydrofflworcarbonau o 85% erbyn 2036, trwyddedu mewnforion ac allforion ac adrodd ar eu defnydd wrth Y Cenhedloedd Unedig. Ar hyn o bryd mae Rheoliadau'r UE a sefydliadau yn cyflawni’r rhwymedigaethau hyn drwy gyfyngiadau cwota, trwyddedu, a gofynion adrodd. Mae Rheoliadau’r UE hefyd yn mynd gam ymhellach gyda gwaharddiadau ar gynnyrch, mesurau rheoli gollyngiadau a gofynion ardystio i dechnegwyr.
|
· O ran ODS yng Nghymru, mae Rheoliadau’r DU yn darparu ar gyfer pwerau gorfodi i’w defnyddio gan Weinidogion Cymru, Cyfoeth Naturiol Cymru, Awdurdodau Lleol a’r Awdurdod Iechyd Porthladdoedd. |
DEFRA |
Safon amgylcheddol - plaladdwyr
|
x |
x |
x |
Rheoliadau sy’n llywodraethu awdurdodiad y defnydd o gynnyrch plaladd a’r lefelau uchaf a ganiateir o weddill mewn bwydydd, a fframwaith ar gyfer gweithredu ar ddefnydd cynaliadwy o blaladdwyr.
|
· Mae Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, awdurdodau lleol, a'r Adrannau Amaeth oll yn rhannu’r cyfrifoldeb dros orfodi rheoliadau plaladdwyr. |
DEFRA |
Safon amgylcheddol - Rheoliadau pecynnu gwastraff a chynnyrch
|
x |
x |
x |
Polisïau a Rheoliadau sy’n ceisio cwrdd gofynion cynnyrch hanfodol penodol ac yn gosod safonau cynnyrch, gan gynnwys ar gyfer pecynnu (e.e. Cyfyngu ar Sylweddau Peryglus (ROHS) mewn Offer Trydanol ac Electronig, Batris a Cherbydau) er mwyn rheoli gwastraff. |
· Mae Awdurdodau Lleol yn gyfrifol am wasanaethau casglu gwastraff tai a busnesau, gwaredu gwastraff, gorfodi deddfwriaeth gwastraff, delio gyda thipio anghyfreithlon, ac annog rheolaeth dda o wastraff (gan gynnwys ailgylchu, cydymffurfio gyda rheoliadau Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff) yn eu hardaloedd. |
DEFRA |
Rheoli a chymorth Pysgodfeydd
|
x |
x |
x |
Polisïau a Rheoliadau’n ymwneud â rheolau sy’n ymwneud â chynaliadwyedd pysgodfeydd (cwotas), mynediad at ddyfroedd, mesurau cadwraeth, gorfodi a chymorth ariannol.
|
· Mae gan Awdurdodau Lleol amrywiaeth o rolau perthnasol o ran ansawdd dŵr, Ardaloedd Morol Gwarchodedig, bioamrywiaeth ayb. Nhw hefyd yw’r Cyrff Arweiniol ar gyfer y Grwpiau Gweithredu Lleol Pysgodfeydd yn y rhan fwyaf o achosion o dan Gronfa’r Môr a Physgodfeydd Ewrop. |
Asiantaeth Safonau Bwyd
|
Deddf iechyd a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid ( Deddf iechyd a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid a’r rheoliadau sy’n gwirio cydymffurfedd gyda’r ddeddf (rheoliadau swyddogol) |
x |
x |
x |
Rheoliadau’r UE sy’n nodi prif egwyddorion a gofynion diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid; gorfodi'r gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid (rheoliadau swyddogol); labelu diogelwch bwyd; dadansoddi risg; a thrin digwyddiadau. Mae’r rheoliadau yn gosod fframwaith trosfwaol a chydlynol ar gyfer datblygu deddfwriaeth bwyd a bwyd anifeiliaid ac yn gosod egwyddorion cyffredinol, gofynion a gweithdrefnau sy’n sail i’r broses gwneud penderfyniadau o ran diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, gan gynnwys pob cam o gynhyrchu a chyflenwi bwyd a bwyd anifeiliaid.
|
· Mae gan Safonau Masnach Awdurdodau Lleol rôl bwysig iawn o safbwynt diogelwch bwyd, gan weithio ochr yn ochr â’r Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae swyddogaethau’n cynnwys cofrestru, sgoriau hylendid bwyd statudol, a dyletswyddau ehangach archwilio, gorfodi ac erlyn. |
DEFRA |
Safonau cyfansoddol bwyd
|
x |
x |
x |
Isafswm safonau ar gyfer amrywiaeth o nwyddau bwyd penodol fel siwgr, coffi, mêl, caseiniaid, llaeth cyddwys, siocled, jam, sudd ffrwythau a dŵr potel.
|
· Mae Gwasanaethau Safonau Masnach yn cymryd samplau o fwyd i’w dadansoddi a’u profi o ran cyfansoddiad, safon a chywirdeb y labelu. Mae swyddogion arbenigol hefyd yn darparu cyngor a chyfarwyddyd i fusnesau lleol ar gyfansoddiad a labelu eu cynnyrch. Hefyd, dyletswyddau archwilio, gorfodi ac erlyn.
|
DEFRA |
Labelu bwyd |
x |
x |
x |
Rheoliadau yn gosod gofynion ar ddarparu gwybodaeth i ddefnyddwyr ar labeli bwyd.
|
· Fel yr uchod |
Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol |
Cynllunio sylweddau peryglus
|
x |
x |
x |
Mae elfennau o Gyfarwyddeb Seveso III yn ymwneud â chynllunio defnydd tir, gan gynnwys: rheoliadau cynllunio'n ymwneud â storio sylweddau peryglus a thrin cynigion datblygu ar gyfer sefydliadau peryglus.
|
· Fel arfer, yr awdurdod cynllunio lleol yw’r awdurdod sylweddau peryglus ar gyfer yr ardal ac maent yn gweithio'n agos ag Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. · Mae Awdurdodau Lleol yn datblygu cynlluniau argyfwng ar gyfer digwyddiadau mawr, halogiad, gwacâd, nifer fawr o farwolaethau, ac ati |
Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiant |
Gweithredu System Masnachu Allyriadau'r UE .
|
x |
x |
x |
Mae Cyfarwyddebau 2003/87/EC yn sefydlu Cynllun Masnachu Allyriadau yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer nwyon tŷ gwydr. Mae’r Cynllun yn gosod uchafswm o nwyon tŷ gwydr y gellir eu allyrru gan yr holl weithfeydd ac awyrennau sy’n cymryd rhan; mae’r gweithredwyr hyn wedyn yn monitro, gwirio ac yn adrodd ar eu hallyriadau, ac yn gorfod ildio lwfansau sydd gyfwerth â’u hallyriadau blynyddol. Mae lwfansau yn cael eu rhoi drwy gael eu gwerthu mewn ocsiwn neu'n cael eu dyrannu am ddim i rai gweithredwyr, a gellir eu masnachu, a phennir y pris gan y farchnad.
|
|
Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiant (BEIS), Iechyd a Gofal Cymdeithasol (DHSC), Tai, Cymunedau a Llywodraeth Leol, DEFRA, Addysg, a’r Weinyddiaeth Gyfiawnder hefyd â diddordeb
|
Cydnabyddiaeth gyffredin o gymwysterau proffesiynol (MRPQ)
|
x* |
x* |
x* |
Cyfarwyddebau sy’n creu systemau ar gyfer cydnabod y cymwysterau proffesiynol a’r profiad proffesiynol ar draws yr UE. Caniatáu gweithwyr proffesiynol yr UE i weithio mewn proffesiynau a reoleiddir yng ngwledydd eraill yr UE un ai yn barhaol neu dros dro.
|
· Mae Awdurdodau Lleol yn cyflogi amrywiaeth o weithwyr proffesiynol, fel penseiri, a gallai’r newidiadau i’r gydnabyddiaeth gyffredin o gymwysterau eu heffeithio. |
Iechyd a Gofal Cymdeithasol |
Hawliau iechyd maetheg, cyfansoddiad a labelu
|
x |
x |
x |
Gan gynnwys Rheoliadau a Chyfarwyddebau ar yr hawliau maeth a iechyd a wneir ar fwyd; bwyd at ddibenion meddygol arbennig a rheoli pwysau; bwyd i blant; ychwanegu fitaminau a sylweddau eraill at fwyd, ac atchwanegiadau bwyd.
|
· Mae Gwasanaethau Safonau Masnach yr Awdurdodau Lleol yn arwain ar gynghori a gorfodi · Fel ar gyfer safonau cyfansoddiadol bwyd fel yr uchod |
DEFRA |
Iechyd planhigion, hadau a deunydd lluosogi
|
x |
x |
x |
Gofynion o ran mewnforio a symud planhigion a chynnyrch planhigion y tu mewn i’r UE, asesiad risg plâu planhigion newydd a rheoli achosion. Sicrhau ac archwilio polisïau ar draws y DU i warchod bioddiogelwch planhigion. Gofynion ar gyfer hawliau amrywiad planhigion, cofrestru amrywiadau o blanhigion a sicrhau ansawdd hadau a deunyddiau lluosogi sy'n cael eu marchnata.
|
|
Swyddfa’r Cabinet |
Caffael Cyhoeddus |
x* |
x* |
x* |
Y drefn a ddarperir gan Gyfarwyddebau caffael yr UE, yn cynnwys contractau caffael cyhoeddus ar gyfer cyflenwadau, gwasanaethau, gwaith a chonsesiynau o dan drothwyon ariannol penodol a ddyfarnwyd gan y sector cyhoeddus a gan gyfleustodau sy’n gweithredu yn y sectorau gwasanaethau ynni, dŵr, cludiant a phost (Cyfarwyddebau 2014/24/EU, 2014/25/EU a 2014/23/EU).
|
· Gwariodd awdurdodau lleol £3.3 biliwn drwy gaffael yn 2015/16 – dros hanner y cyfanswm caffael gan gyrff cyhoeddus[2] |
Busnes, Ynni a Strategaeth Diwydiant |
Y Gyfarwyddeb Gwasanaethau |
x* |
x* |
x* |
Cyfarwyddeb sy’n ceisio cyflawni llawn botensial marchnadoedd gwasanaethau yn Ewrop drwy waredu rhwystrau cyfreithiol a gweinyddol i fasnach drwy gynyddu tryloywder a'i gwneud yn haws i fusnesau a defnyddwyr ddarparu neu ddefnyddio gwasanaethau ym Marchnad Sengl yr UE.
|
· Fel yr uchod – mae awdurdodau lleol yn ymwneud â chaffael gwasanaethau fel rhan o’u caffael cyffredinol. |